Mae David Cameron wedi dod dan bwysau i gynnal ymchwiliad i ganfod pam fod pobl yn troi at fanciau bwyd am gymorth wrth i’r galw gynyddu’n sylweddol.

Roedd mwy na 350,000 o bobl wedi derbyn pecynnau bwyd sy’n para tridiau gan Ymddiriedolaeth Trussell rhwng mis Ebrill a mis Medi, bron i deirgwaith yn fwy na’r un cyfnod y llynedd.

Yng Nghymru roedd 32,500 o bobol wedi derbyn y pecynnau bwyd.

Mae’r elusen wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw arno i edrych ar y broblem “gywilyddus” o dlodi bwyd.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, mae rhai pobol yn dychwelyd bwydydd sydd angen eu cynhesu gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio’r trydan i’w coginio.

Costau byw a lleihad mewn cyflogau yw’r prif resymau tros ansicrwydd ariannol yn ôl yr elusen, a gall unrhyw newid mewn amgylchiadau arwain at dlodi. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu  12.6% dros y chwe blynedd ddiwethaf ac mae costau cynyddol biliau ynni dros y gaeaf yn golygu y bydd mwy o bobol yn gorfod dewis rhwng bwyta neu gynhesu eu tai, medd Ymddiriedolaeth Trussell.

Gweithredu

“Fel cenedl, mae’n rhaid i ni dderbyn fod rhywbeth yn bod a gweithredu rŵan, i atal llwgu ym Mhrydain rhag gwaethygu.”

Mae Julian Rosser o Oxfam Cymru hefyd yn dweud fod y sefyllfa yn annerbyniol.

“Mae hi’n warthus fod y seithfed genedl fwyaf cyfoethog ar y blaned yn gweld cynnydd mor uchel yn nifer y rhai sy’n troi at fanciau bwyd.”

Tony Graham yw rheolwr Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru ac mae e’n credu fod y banciau bwyd yn rhoi cymorth hanfodol ond na ddylai gymaint o bobol fod yn eu defnyddio.

Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Trussell Chris Mould bod yr amser wedi dod i gynnal ymchwiliad swyddogol i’r hyn sy’n achosi tlodi bwyd a’r defnydd cynyddol o fanciau bwyd.

Ymateb TUC

Dywedodd Swyddog Cenedlaethol TUC, Julie Cook: “Dim ond edrych ar y cynnydd mewn banciau bwyd sydd raid i weld cyn lleied o gefnogaeth sy’n cael ei roi i bobol mewn amgylchiadau anodd. Mae Llafur yn beio hynny ar y bobol.

“Mae ffactorau fel y dreth ystafell wely wedi gwthio mwy o bobl i’r dibyn ac mae ffigyrau diweddar yn dangos fod un o bob tri o denantiaid Cymru mewn ôl-ddyledion.”