Rob Howley
Mae’r heddlu yn ymchwilio i ladrad mewn clwb rygbi ar ol i  un o grysau rygbi Cymru Rob Howley gael ei ddwyn.

Digwyddodd y lladrad yng Nghlwb Rygbi Maesteg rhywbryd rhwng 1yp ddydd Sul a 9:30yb fore Llun.

Roedd Rob Howley, cyn fewnwr Cymru, wedi rhoi’r crys fel rhodd i’r clwb. Ymhlith yr eitemau eraill a gafodd eu dwyn roedd crys rygbi’r gynghrair dan 19 Cymru a wisgwyd gan Kevin Ellis, cyn chwaraewr ieuenctid gyda’r clwb.

Dyma’r trydydd lladrad yn y clwb yn ddiweddar gyda’r ddau arall yn digwydd ar 12 a 13 Hydref pan gafodd nifer o felysion ac alcohol eu dwyn.

Dywedodd y Cwnstabl Viv Price o orsaf heddlu Maesteg: “Byddai gan grys Rob Howley, yn benodol, werth ariannol i’r lladron. Mae’r crysau yn unigryw ac yn golygu llawer iawn i’r clwb a’i haelodau.”

“Rwy’n apelio ar unrhyw un a allai fod a gwybodaeth berthnasol i gysylltu â’r heddlu.”