Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi ffigyrau heddiw sy’n dangos bod nifer y troseddau sy’n ymwneud a’r cyffur meow meow wedi gostwng yn yr ardal.

Mae’r ffigyrau yn dangos bod y cyffur, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel mephedrone, wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn nhref Llanelli a’r ardaloedd gwledig o gwmpas y dref.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau diweddar yn y wasg oedd yn honni mai Llanelli oedd un o’r ardaloedd gwaethaf ar gyfer y defnydd o meow meow yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod y sefyllfa yn Llanelli ac ar draws y sir yn gwella,” meddai’r Ditectif Arolygydd Richard Hopkin. “Mae tref Llanelli wedi gweld nifer y troseddau yn ymwneud a’r cyffur yn gostwng o  101 i 39 wrth gymharu ffigurau Ebrill i Fedi eleni â’r un cyfnod y llynedd.”

“Rwy’n credu bod y gostyngiad o 61.4 % yn y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hon yn dangos yn glir bod ein dulliau o weithredu yn gweithio a bod y defnydd o’r cyffur wedi mynd heibio’i anterth.”

Roedd y gostyngiad yn Sir Gaerfyrddin yn 55.1% o 185 o droseddau i 83 tra bod Rhydaman hefyd wedi gweld gostyngiad o 51.5% o droseddau yn ymwneud â meow meow.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Richard Hopkin: “Bydd ein swyddogion yn parhau i dargedu camddefnyddio sylweddau. Dylai unrhyw un sydd am roi gwybodaeth wneud hynny drwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.”