Mae wyth o bobol wedi cael eu harestio mewn ymgyrch newydd a chaletach yn erbyn twyllwyr. Yr astiantaeth dwyll newydd, yr NCA, oedd yn arwain yr ymchwiliad.

Mae dwsinau o swyddogion yr NCA, gyda chefnogaeth nifer o luoedd yr heddlu, wedi cynnal cyrchoedd ar ddeg o leoliadau ym mhob cwr o wledydd Prydain heddiw.

Mae pobol wedi’u haretsio yn Llundain, Glannau Merswy, Swydd Caer, Humberside, Essex a’r Alban, ac maen nhw’n cynnwys pobol oedd wedi gwneud ceisiadau am drwydded yrru trwy ddefnyddio manylion ffug.

Mae’r wyth wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau twyll, ac maen nhw’n cael eu holi ar hyn o bryd.