Mae deifwyr wedi darganfod mwy o gyrff ar ôl i long suddo a mynd ar dân ger Sisili yr wythnos diwethaf.

Mae nifer y meirw bellach yn 211.

Daethpwyd o hyd i 17 o gyrff heddiw, 83 ddoe, a chredir fod cannoedd yn dal i fod ar goll. Mae awdurdodau’r Eidal wrthi’n chwilio am ragor o gyrff o fewn y llong sy’n gorwedd ar wely’r mor.

Fe gafodd 155 o bobol eu hachub o’r llong oedd yn cario 500 o ymfudwyr o Affrica i ynys Lampedus.

Bob blwyddyn mae cannoedd o ymfudwyr yn dod o Affrica mewn gobaith o gael bywyd gwell yn Ewrop, ond yn marw wrth wneud hynny.