Mae’r crwner sy’n goruchwylio cwestau newydd i farwolaethau 96 o bobl yn nhrychineb Hillsborough wedi dweud ei fod wedi “ymrwymo” i sicrhau eu bod yn dechrau’r gwanwyn nesaf.
Fe wnaeth yr Arglwydd Ustus John Goldring ddatgan ei fwriad i gynnal y cwestau yn Warrington, Sir Gaer, ar 31 Mawrth mewn gwrandawiad heddiw.
Roedd perthnasau’r rhai a fu farw yn y trychineb wedi dweud y byddan nhw’n gwrthwynebu unrhyw oedi pellach ar ôl aros 25 mlynedd am gyfiawnder.