Mae adroddiadau heddiw bod cwmni a brynodd ladd-dy yn Ynys Môn ym mis Gorffennaf wedi penderfynu gwerthu’r safle.
Roedd cwmni 2 Sisters wedi prynu lladd-dy Welsh Country Foods yng Ngaerwen gan gwmni Vion dri mis yn ôl gan godi gobeithion y byddai’r cwmni yn ail-ddechrau lladd wyn ar y safle.
Ond wedi adolygiad, mae’r cwmni wedi penderfynu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddefnydd i’r safle ac maen nhw wedi penderfynu gwerthu.
Dywedodd llefarydd ar ran 2 Sisters: “Rydym wedi cynnal adolygiad mewnol llawn a manwl o’r safle ac yn anffodus nid yw’n bodloni ein gofynion gweithredol am y dyfodol.
“Felly, bydd yr adeilad yn cael ei roi ar werth yn ystod yr wythnosau nesaf.”