Sinitta a Simon Cowell
Mae cyn-gariad Simon Cowell, Sinitta, wedi datgelu bod y ddau ohonyn nhw wedi torri eu calonnau pan benderfynodd hi erthylu eu babi yn 1980.

Yn ôl adroddiadau diweddar nid oedd Simon Cowell yn gwybod fod Sinitta wedi cael erthyliad, ond yn ôl y gantores roedd y Cadfridog Pop yn gwybod yn iawn.

“Faswn i byth yn gwneud hynny iddo,” meddai Sinitta.

“Roedd y ddau ohonom yn ifanc ac roeddwn i wedi cael gwybod nad oeddwn i’n gallu cario plentyn yn y tymor hir.”

Trist

Ychwanegodd Sinitta: “Roedd yn gyfnod hynod o drist ac yn rhywbeth anodd iawn i ddelio efo fo, ond fe wnaethon ni hynny gyda’n gilydd.”

Daw’r honiadau ar ôl i Simon Cowell gyhoeddi ei fod am fod yn dad am y tro cyntaf, gyda’i gariad Lauren Silverman.

Wrth glywed am y newyddion, dywedodd Sinitta ei bod wedi “dychryn”. Ond mae hi bellach wedi datgan ei bod yn hapus dros y ddau.