Anafiadau'r wraig 95 oed
Mae gwraig 95 oed o Wickford yn Essex yn gwella yn yr ysbyty ar ôl iddi gael ei hanafu’n ddifrifol gan ladron wnaeth dorri i mewn i’w chartref.

‘Dyw’r heddlu ddim wedi enwi’r wraig ond mae nhw wedi rhyddhau llun ohoni ar ôl iddi gael ei gadael efo llygad ddu, anaf i’w phen a’i phelfis wedi ei dorri gan dri lleidr ifanc dorrodd i mewn i’w chartref trwy ffenestr ar y llawr cyntaf.

Ar ôl ymosod arni fe wnaeth y tri ddianc efo arian a goriadau’r tŷ.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tony Thomas sy’n arwain yr ymchwiliad, y dylai’r tri lleidr a’r rhai sy’n eu hadnabod fod cywilydd mawr o’r hyn ddigwyddodd.

“Mae’n dorcalonus gweld wyneb dynes hyfryd wedi ei guro a’i anafu gan y dynion yma oedd yn amlwg heb unrhyw barch ati wrth iddyn nhw dorri i mewn i’w chartref ac ymosod arni heb feddwl dwywaith,”meddai.