Alun Cairns AS
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cwyno wrth Heddlu Llundain am ymddygiad cyn swyddog cysylltiadau cyhoeddus y Blaid Lafur, Damien McBride.

Mae’r Ceidwadwr Alun Cairns, sy’n cynrychioli Bro Morgannwg, wedi ysgrifennu i gyfleu ei bryderon ynglŷn â’r achos at Gomisiynydd Heddlu Llundain, Syr Bernard Hogan Howe.

Dywedodd Alun Cairns fod datganiadau gan Damian McBride yn ei hunangofiant yn awgrymu ei fod wedi cael mynediad i ebyst Gordon Brown heb iddo wybod, gweithred sydd yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

Dywedodd Alun Cairns, “Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â’r posibilrwydd fod troseddau difrifol wedi digwydd.”

Mae Damian McBride yn gwadu ei fod wedi torri’r gyfraith.

Araith

Wrth i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, baratoi at gyflwyno araith bwysig i Gynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton heddiw, mae Damien McBride hefyd yn gwadu fod Ed Miliband ac Ed Balls yn ymwybodol o’i weithgareddau briffio amheus.

Yn ei gyfweliad teledu cyntaf ers iddo gyhoeddi ei hunangofiant, dywedodd Damian McBride fod ganddo gywilydd o’i ymgyrch i geisio pardduo enw gwleidyddion Llafur a dybiai o fod yn her i’r Prif Weinidog ar y pryd, Gordon Brown.

Wrth drafod ei gyfnod gyda’r Prif Weinidog Gordon Brown ar raglen Newsnight, dywedodd Damian McBride nad oedd yn credu bod Ed Miliband ac Ed Balls yn ymwybodol o’r hyn yr oedd yn ei wneud. Meddai, “Na, roeddyn nhw’n gwybod llai na Gordon oherwydd ‘doeddwn i ddim yn gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd yn yr un ffordd ag yr oeddwn i efo Gordon.”

Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman wedi disgrifio ymddygiad Damian McBride fel ‘gwarthus’ ond pwysleisiodd fod yr achos yn y gorffennol.

Heddiw bydd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband yn cyflwyno polisi i roi cymorth i oddeutu 1.5 miliwn o fusnesau bach yn Lloegr trwy beidio â chynyddu trethi busnes os daw Llafur i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Byddai’r polisi yn cael ei ariannu trwy beidio a thorri trethi corfforaethol i gwmniau mawr.