Mae plant o wledydd Prydain yn cael eu gorfodi i berfformio’n rhywiol ar y We ar ôl cael eu bygwth gan bedoffiliaid.

Yn ôl ymchwilwyr, mae rhai’n mynd ymlaen i frifo’u hunain ac un bachgen o’r Alban wedi ei ladd ei hun o ganlyniad.

Fe ddywedodd y corff gwarchod, CEOP, mai dyma un o’r datblygiadau gwaetha’ o ran cam-drin rhywiol, ond fe addawon nhw y byddai’r troseddwyr yn cael eu dal.

Mae’n debyg fod pedoffiliaid yn twyllo plant i ddangos lluniau rhywiol ohonyn nhw eu hunain ar y We ac yna’n bygwth dangos y lluniau i’w teuluoedd os na fyddan nhw’n gwneud pethau mwy anllad fyth.

Miloedd?

Maen nhw wedi dod o hyd i achosion yn ymwneud â 184 o blant o wledydd Prydain ond yn amau bod y ffigwr go iawn yn llawer uwch, efallai yn filoedd.

Fe gafodd 12 achos eu dwyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’ ac roedd y troseddwyr yn dod o bedwar cyfandir gwahanol, gyda phump wedi’u canoli ar y Deyrnas Unedig.

Yn y cyrch rhyngwladol mwya’ gan yr heddlu, fe ddaethpwyd o hyd i 322 o blant, gyda 96 o’r rheiny’n dod o wledydd Prydain.

Yn ôl CEOP, mae’r iaith Saesneg a natur agored y gymdeithas yng ngwledydd Prydain yn denu’r pedoffiliaid.

‘Fel caethweision’

“Mae plant mor ifanc ag wyth oed yn cael eu targedi, yn diodde’ blacmel, yn cael eu gorfodi i berfformio gweithredoedd tebyg i gaethweision ar y Rhyngrwyd ar webcam,” meddai Dirprwy Brif Weithredwr CEOP, Andy Baker.

“Mae rhai yn cael eu gorfodi i dorri eu cyrff a sgrifennu ar eu cyrff noeth … mae saith o blant yn y cwpwl o flynyddoedd diwetha’ wedi lladd eu hunain.”

Fe rybuddiodd y gallai marwolaethau o’r fath arwain at gyhuddiadau o lofruddiaeth.