Daniel Pelka
Roedd asiantaethau plant wedi colli sawl cyfle i ymyrryd yn achos bachgen 4 oed a gafodd ei guro i farwolaeth gan ei fam a’i lystad, yn ôl adolygiad.

Mae adolygiad i farwolaeth Daniel Pelka wedi darganfod methiannau difrifol gan yr asiantaethau a gafodd eu sefydlu i ddiogelu plant. Ond mae’n dod i’r casgliad na allai unrhyw un fod wedi rhagweld y byddai’n cael ei ladd gan ei fam a’i lystad y llynedd.

Roedd gweithwyr iechyd, staff ysgol a gweithwyr cymdeithasol wedi cael eu “camarwain a’u twyllo” gan Magdelena Luczak  a’r cyn-filwr Mariusz Krezolek, oedd yn dod o Wlad Pwyl, wrth iddyn nhw geisio celu’r ffaith eu bod yn cam-drin Daniel.

Bu farw Daniel, o Coventry, o anaf i’w ben ar 3 Mawrth y llynedd.