Mae’r Llywodraeth wedi gwerthu cyfran o 6% yng ngrŵp bancio Lloyds am £3.21 biliwn.
Mae’n rhan o’r broses i ddychwelyd y banc i ddwylo preifat. Roedd y Llywodraeth wedi gorfod achub y banc ar ôl i’r grŵp brynu Halifax Bank of Scotland.
Cafodd y cyfrannau eu gwerthu am 75c yr un. Mae’n golygu elw i’r Llywodraeth o £61 miliwn.
Fe fydd cyfran y Llywodraeth yn y banc yn gostwng o 38.7% i 32.7%.