Y Ty Gwyn yn Washington
Roedd gan y dyn arfog a laddodd 12 o bobl yn safle’r Llynges yn Washington ddoe dri gwn ei feddiant, yn ôl swyddogion.

Cafodd Aaron Alexis, 34, oedd yn gontractwr technoleg gwybodaeth ar y safle, ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl iddo danio gynnau at weithwyr yn yr adeilad.

Yn ôl yr FBI roedd ganddo hawl i gael mynediad i’r safle yn Washington.

Mae’r heddlu’n credu mai dim ond un dyn arfog fu’n gyfrifol am yr ymosodiad.

Roedd adroddiadau neithiwr yn awgrymu bod ’na ddau neu dri yn gysylltiedig.

Dywedodd y Maer Vincent Gray bod y 12 a gafodd eu lladd rhwng 46 a 73 oed a’u bod yn dal i geisio cysylltu gyda’u teuluoedd. Cafodd wyth o bobl hefyd eu hanafu.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.