Mae absenoldeb athrawon yn ysgolion Cymru yn cael effaith ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion gan fod yna ddibyniaeth gynyddol ar staff cyflenwi a chynorthwyol, yn ôl dau adroddiad sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru a’r corff arolygu Estyn, nid yw trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon yn gwneud digon i sicrhau cynnydd dysgwyr, nac yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau.
Mae’r adroddiadau’n dangos cynnydd yn y defnydd o athrawon a staff cyflenwi, gyda bron i 10% o wersi’n cael eu haddysgu gan staff heblaw athro arferol y dosbarth bellach.
Mae hyn yn cael effaith ariannol ar ysgolion ac yn llesteirio cynnydd dysgwyr hefyd wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, medd yr adroddiadau.
‘Llai o gynnydd’
Yn ôl adroddiad Estyn, mae dysgwyr yn gwneud llai o gynnydd pan fydd athro arferol y dosbarth yn absennol, a bydd eu hymddygiad yn aml yn waeth.
Yn aml, mae staff cyflenwi sydd ddim yn cael eu cyflogi gan yr ysgol yn llai effeithiol oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod digon am anghenion y disgyblion yn eu dosbarth. Gall gwersi fod yn rhy araf a disgwyliadau fod yn rhy isel hefyd, medd yr adroddiad.
Mewn ysgolion uwchradd, gall absenoldeb athrawon gael effaith fwy niweidiol.
Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant: “Mae’n amlwg bod disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd yn gwneud llai o gynnydd pan fydd athro arferol y dosbarth yn absennol. Mae’n hollbwysig i ni fynd i’r afael ag effaith absenoldeb athrawon er mwyn sicrhau bod safon yr addysg a roddir i bobl ifanc bob amser yn heriol. O ganlyniad, ni fydd unrhyw ddisgybl o dan anfantais pan fydd ei wersi dan ofal athro cyflenwi.”
‘Dibyniaeth gynyddol ar staff cyflenwi’
Yn ôl y Swyddfa Archwilio, amcangyfrifir bod ysgolion wedi gwario £54 miliwn ar drefniadau cyflenwi yn yr ystafell ddosbarth yn 2011-12 – cynnydd o 7% ers 2008-09. Mae’r rhesymau am absenoldeb yn cynnwys salwch, hyfforddiant a mynychu cyfarfodydd. Gan ystyried y cynnydd yn y defnydd o staff asiantaethau, amcangyfrifir bod nifer y diwrnodau y bu’n rhaid defnyddio staff cyflenwi wedi cynyddu 10% yn yr un cyfnod.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: “Mae’r adroddiad yn dangos y ddibyniaeth gynyddol ar staff cyflenwi ledled Cymru. Er mwyn defnyddio staff cyflenwi yn effeithlon ac yn effeithiol, mae angen i ysgolion ddeall yn well y rhesymau sydd wrth wraidd absenoldeb athrawon a datblygu trefniadau cyflenwi mwy effeithiol.
“Bydd hyn yn arbed arian i ysgolion ar yr un llaw ond bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad disgyblion.”
Argymhellion
Mae’r ddau adroddiad yn cyflwyno argymhellion gyda’r nod o leihau amlder ac effaith absenoldeb athrawon, yn cynnwys:
- Gwella’r broses o reoli trefniadau cyflenwi mewn ysgolion, gan gynnwys datblygu polisïau sy’n canolbwyntio ar gynnydd dysgwyr a defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol;
- Gwella ansawdd yr addysgu a dysgu mewn gwersi dan ofal staff cyflenwi drwy sicrhau bod gwaith yn cael ei osod ar lefel briodol; a
- Sicrhau bod athrawon cyflenwi’n gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu a chynyddu mynediad at raglenni hyfforddi cenedlaethol sydd ar gael i athrawon ar gontractau parhaol.
‘Angen cymryd camau brys’
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:
“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn glir nad yw absenoldeb athrawon yn cael ei reoli’n ddigonol yng Nghymru a bod angen mynd i’r afael â’r broblem.
“O gofio bod athrawon yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn methu 10% o’u gwersi, mae angen cymryd camau brys i leihau absenoldeb oherwydd salwch, sy’n llawer uwch yma na dros y ffin yn Lloegr.
“Yn ogystal â hyn, rhaid rhoi’r cymorth angenrheidiol i athrawon llanw i leihau’r effaith negyddol y gall absenoldeb yr athro arferol ei gael ar gynnydd a chyrhaeddiad y disgyblion.”