Fe ddatgelodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu bod ditectif yn Heddlu Gwent wedi cael y sac am wneud smonach o ymchwiliad ac am fethu â dychwelyd eiddo i’w berchnogion.

Mae’r Ditectif Gwnstabl Steve Waters wedi apelio yn erbyn y dyfarniad ac yn aros iddo gael ei glywed ond, yn ôl y Comisiwn, roedd y penderfyniad i’w sacio yn iawn.

Y Comisiwn ei hun oedd wedi cynnal yr achos ar ôl cwynion na chafodd eiddo ei ddychwelyd ar ôl iddo gael ei gipio mewn cyrch gan yr heddlu.

Fe gafodd dau o swyddogion Heddlu Gwent eu disgyblu’n fewnol hefyd am fethu â goruchwylio’r gwaith yn iawn.

Y manylion

Roedd y cyfan wedi codi o ymchwiliad yn 2010 pan oedd y plismyn yn ymateb i wybodaeth am gopr oedd wedi’i ddwyn.

Pan aethon nhw ar gyrch i safle ger Pontypŵl fe ddaethon nhw o hyd i tua 7 tunnell o gopr, gan gipio hwnnw yn ogystal a fan a threlar a gwahanol ddarnau o offer.

Fe benderfynodd yr archwiliad:

  • Nad oedd DC Waters wedi ymchwilio’n iawn i’r achos ac, o ganlyniad, doedd neb wedi’i gyhuddo.
  • Roedd wedi methu â dychwelyd yr eiddo i gyd ac wedi dychwelyd peth ohono mewn ffordd afreolaidd iawn, gan anwybyddu gorchymyn.
  • Am nad oedd cofnodion cywir, doedd hi ddim yn glir beth yn union oedd wedi digwydd.
  • Doedd y Ditectif Sarjiant Paul Thear-Graham na’r Prif Arolygydd Glyn Fernquest ddim wedi arolygu’r gwaith yn iawn.

“Roedd gweithredu Heddlu Gwent yn ddiffygiol o’r dechrau i’r diwedd,” meddai’r Comisiynydd tros Gymru, Tom Davies. “Mae’n iawn fod y swyddog hwn wedi cael ei ddiswyddo am ei weithredoedd.”