Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth bachgen 16 oed a gafodd ei drywannu yn Birmingham bore ma.

Cafodd y bachgen ei ddarganfod gan yr heddlu yn y stryd yn ardal Moseley, yn fuan ar ôl iddo ddod oddi ar fws tua  8:33yb.

Aed a’r bachgen i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywed yr heddlu  nad yw hi’n glir ar hyn o bryd beth oedd y rheswm y tu ôl i’r ymosodiad ond mae’n debyg ei fod o ganlyniad i ffrae rhwng dau fachgen.

Mae’r Heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad.

Mae Ffordd Yardley Wood wedi cau wrth i arbenigwyr fforensig archwilio’r safle. Mae teulu’r bachgen wedi cael gwybod ac mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal.