Y Ty Gwyn yn Washington
Mae o leiaf chwech o bobl wedi cael eu saethu’n farw a hyd at 10 wedi eu hanafu gan ddynion arfog mewn digwyddiad ar safle Llynges yr Unol Daleithiau yn Washington, yn ôl swyddogion diogelwch.

Dywed y llynges bod gwn wedi ei danio yn yr adeilad lle mae tua 3,000 o bobl yn gweithio. Cafodd pobl orchymyn i aros yn yr adeilad i gael lloches a chafodd strydoedd yn yr ardal eu cau.

Mae un o’r dynion arfog wedi marw, meddai’r heddlu. Mae’n debyg ei fod wedi bod yn gwasanaethu gyda’r llynges ond bod ei swydd wedi newid yn gynharach eleni. Credir bod y ddau arall yn dal ar ffo. Yn ol adroddiadau maen nhw mewn gwisg filwrol.

Mae’r Arlywydd Barack Obama, sydd wedi bod yn ceisio tynhau’r rheolau’n ymwneud a gynnau, wedi condemnio’r ymosodiad.

Yn ôl y Washington Post roedd tri dyn arfog, un mewn gwisg filwrol, yn rhan o’r digwyddiad ar y safle ger Afon Potomac.