Ed Davey
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio o blaid ynni niwclear am y tro cyntaf yn hanes y blaid.
Mi wnaeth aelodau’r blaid bleidleisio o blaid ynni niwclear mewn amgylchiadau “cyfyngedig” yn eu cynhadledd yn Glasgow ar ôl i’r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd Ed Davey ddweud y byddai’n “ddi-hid” i ddibynnu ar nwy a glo, yn ogystal ag ynni cynaliadwy.
Ond er eu bod nhw felly yn derbyn y bydd angen adeiladau gorsafoedd ynni niwclear newydd mewn rhai amgylchiadau, roedd ymgyrchwyr yn dweud y byddai’n rhaid cael cyfyngiadau mwy llym ar ffracio.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau sicrhau fod y rhai sy’n byw wrth ymyl y mannau lle y bydd ffracio yn digwydd yn cael y cyfle i ddweud eu dweud.