David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud heddiw ei bod yn annhebygol iawn  y bydd cytundeb ynglŷn â Syria yn uwch gynhadledd y G20 yn St Petersburg.

Dywedodd y Prif Weinidog bod Arlywydd Rwsia Vladimir Putin yn gwrthod derbyn mai  llywodraeth Bashar Assad oedd yn gyfrifol am ymosodiad arfau cemegol ar ei phobl yn Syria.

Mae Putin, sy’n cynnal yr uwchgynhadledd, wedi bod yn ceisio darbwyllo gwledydd eraill i beidio cefnogi ymgais yr Arlywydd Barack Obama i weithredu’n filwrol – dim ond Ffrainc sydd wedi awgrymu hyd yn hyn y byddai’n ymuno petai America yn defnyddio grym.

Dywedodd David Cameron bod ’na raniadau amlwg ynglŷn â’r ymateb i’r argyfwng yn Syria a fu’n hawlio’r sylw yn ystod cinio swyddogol neithiwr.

Er bod gan wyddonwyr yn y DU a’r UDA dystiolaeth bod  nwy sarin wedi ei ddefnyddio mewn ymosodiad yn Namascus ar Awst 21, mae Putin yn dal i wrthod derbyn mai Assad oedd yn gyfrifol, meddai Cameron.

Mae Putin am weld rhagor o dystiolaeth i brofi mai Assad ac nid y gwrthryfelwyr fu’n gyfrifol, yn ôl y Prif Weinidog.

Ond mae’n ymddangos bod nifer o wledydd, gan gynnwys China, yn cefnogi dadl Putin y dylai unrhyw weithredu milwrol gael cefnogaeth Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

£52m o gymorth ychwanegol

Fe gyhoeddodd David Cameron heddiw y bydd £52 miliwn o gymorth dyngarol ychwanegol o’r DU yn cael ei roi i helpu’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil y rhyfel cartref yn Syria.

Fe fydd yr arian ychwanegol o Brydain yn mynd tuag at hyfforddiant ac offer meddygol i helpu trigolion sydd wedi cael eu targedu yn yr ymosodiadau.

Mae David Cameron hefyd wedi galw am weithredu rhyngwladol i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cyrraedd y safleoedd hynny ac yn galw ar arweinwyr y G20 i gyfrannu mwy i ddangos nad ymateb milwrol yw’r unig beth sy’n cael sylw yn yr uwchgynhadledd.