Michael Gove
Mae dau o’r undebau athrawon mwyaf wedi cyhoeddi eu bod am gynnal nifer o streiciau cyn y Nadolig wrth iddyn nhw wrthdaro gyda’r Llywodraeth dros gyflogau a newidiadau i amodau gweithio.
Mae’n debygol y bydd aelodau o’r NUT a NASUWT, sy’n cynrychioli naw allan o ddeg o athrawon, yn streicio ar Fedi 30, Hydref 14 ac ar ddyddiad arall cyn y Nadolig, sydd eto i’w gadarnhau.
Mae’n ymddangos y bydd y streiciau yn effeithio ar Gymru a Lloegr er nad yw manylion penodol wedi eu cadarnhau eto.
Mae’r gweithredu yma yn dilyn streic Mehefin 27 gan aelodau o’r undebau lle gorfodwyd i nifer o ysgolion yng ngogledd orllewin Lloegr gau.
Yn ôl yr undebau, mae’r streiciau newydd yma yn ymateb i benderfyniad yr Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove AS, i wrthod trafod gydag athrawon ynglŷn â newidiadau i gyflogau, pensiynau ac amodau gwaith.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT, Chris Keates, “Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Addysg gymryd pryderon dwys athrawon ac arweinwyr ysgolion o ddifrif. Mae ymosodiadau didrugaredd ar athrawon yn niweidio ysbryd athrawon ac yn niweidio addysg disgyblion.”
Ychwanegodd Christine Blower, Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUT, “Mae Michael Gove yn ymwybodol fod ysbryd athrawon yn isel, ers ei gyfnod ef fel Ysgrifennydd Addysg. Mae athrawon yn flin gyda’r Llywodraeth am danseilio cyflogau, pensiynau ac amodau gwaith.”