Mae gweithwyr post am gynnal pleidlais ynglŷn â chynnal streic dros gynlluniau dadleuol Llywodraeth Prydain i breifateiddio’r Post Brenhinol.

Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi dweud fod 125,000 o’i haelodau am bleidleisio ar 20 Medi ynglŷn â chyflogau, swyddi, pensiynau ac effaith preifateiddio. Mae disgwyl canlyniad y bleidlais ar 3 Hydref a gallen nhw weithredu’n ddiwydiannol yr wythnos ganlynol.

Mae’r bleidlais yn her i’r cynlluniau preifateiddio ond mae’r Llywodraeth wedi dweud na fydd yn newid ei phenderfyniad i werthu cyfranddaliadau yn y Post Brenhinol yn y flwyddyn ariannol yma.

Mae’r undeb wedi rhybuddio bod streic yn “anochel” oni bai bod cytundeb ar nifer o faterion.

Yn ôl Dave Ward sy’n is-gadeirydd cyffredinol  y CWU: “Rydym yn gobeithio cyrraedd cytundeb a fydd yn gwarchod ein gweithwyr yn llawn os bydd y cwmni yn cael ei breifateiddio.”

Plaid Cymru yn gwrthwynebu

Yn y cyfamser mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, wedi ailadrodd gwrthwynebiad ei blaid i breifateiddio’r Post Brenhinol a’r effaith drychinebus y byddai hyn yn ei gael ar wasanaethau post mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Jonathan Edwards, sy’n gobeithio cyfrannu at y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, fod Plaid Cymru yn bryderus iawn am benderfyniad y Llywodraeth i fwrw ymlaen â phreifateiddio’r gwasanaeth post.

“Rydym yn arbennig o bryderus am effeithiau tebygol y newid hwn a fydd yn gweld gwasanaethau mewn perygl – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig megis fy etholaeth yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae’r gwasanaeth casglu chwe diwrnod yr wythnos yn ffurfio rhan amhrisiadwy o fywyd lleol mewn ardaloedd gwledig ac mae’n destun pryder mawr i feddwl y gallai hyn fod yn y fantol oherwydd y posibilrwydd na fydd yn gwneud elw.

“Mae Plaid Cymru yn credu fod blaenoriaethu creu elw dros yr egwyddor o wasanaeth da bob amser yn tanseilio ansawdd.”