Nigel Farage - 'popeth yn troi o'i gwmpas'
Fydd plaid UKIP ddim yn cyflawni’i photensial tra bod yr arweinydd, Nigel Farage, yn cadw’r fath afael arni.

Dyna farn cyn brif weithredwr y blaid a roddodd y gorau i’r swydd yr wythnos hon ar ôl dim ond ychydig fisoedd.

Fe ddywedodd Wil Gilpin wrth bapur y Daily Telegraph ei fod wedi methu â chael yr hawl i greu gwell system o reoli’r blaid.

Os na fyddai hynny’n digwydd, meddai, fe fyddai UKIP yn aros yn “griw o amaturiaid sy’n cael amser da”.

Roedd yn cyhuddo Nigel Farage o gredu fod popeth yn troi o’i gwmpas o, gan ddweud ei fod yn gwneud pethau heb drafod gyda neb arall.

Fe ddywedodd Wil Gilpin ei fod wedi gadael y blaid trwy gytundeb ar ôl methu â gweithredu’r diwygiadau oedd eu hangen.

Fyddai UKIP ddim yn cyflawni’i photensial heb newid sylfaenol, meddai.