Mae ymchwilwyr damweiniau awyr yn ceisio darganfod beth achosodd i awyren fechan daro’r ddaear ger Abersoch neithiwr.

Chafodd y ddau ddyn a oedd yn teithio yn yr awyren ddim anafiadau difrifol yn y ddamwain.

Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw allan i roi cymorth meddygol i’r ddau ddyn a oedd mewn awyren microlight.

Cafodd criwiau tân o Abersoch a Nefyn ynghyd ag uned arbennig o Gaernarfon eu gyrru i’r digwyddiad.