Seamus Gilmore (Llun Heddlu)
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio gan heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth sectaraidd gan unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.
Maen nhw’n cael eu holi am y lladd a ddigwyddodd 40 mlynedd yn ôl pan oedd y gwrthdaro ar ei waetha’ rhwng Unoliaethwyr Protestannaidd a Phabyddion Gweriniaethol.
Cafodd Seamus Gilmore, 18, ei ladd yn ei waith mewn gorsaf betrol ym Melffast ar y 4ydd o Chwefror 1973, wedi i ddau ddyn ddod allan o gar a saethu tuag ato. Fe fu farw wedyn yn yr ysbyty.
Cyfweld
Mae heddlu wrthi’n cyfweld â dyn 59 oed o Falkirk yn yr Alban a dyn 61 o Lundain ynglŷn â’r digwyddiad. Maen nhw yn y ddalfa ar dir mawr gwledydd Prydain.
“Yn dilyn adolygiad, mae nifer o lwybrau newydd wedi dod i’r amlwg ar gyfer ein ymholiadau,” meddai’r Ditectif Arolygydd Chris Wilson o Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon:
“Ryden ni mewn cysylltiad â’r teulu Gilmore ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau.”