Mae gwasanaethau mabwysiadu yn Lloegr yn cael 16 gwaith yn fwy o arian Llywodraeth yn ôl y boblogaeth na gwasanaethau tebyg yng Nghymru.
Dyna honiad elusen flaenllaw yn y maes wrth i ffigurau diweddara’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ddangos bod mabwysiadu ar gynydd yng Nghymru a Lloegr.
Yn ôl elusen Adoption UK yng Nghymru, mae’r llwyodraeth yng Nghaerdydd yn uchelgeisiol iawn, ond does dim digon o arian yn cael ei roi at y gwasanaethau ac mae datblygiadau’n rhy ara’.
Maen nhw hefyd yn dweud bod prinder pobol sy’n fodlon mabwysiadu plant ac y gallai pethau fynd o ddrwg i waeth.
Y ffigurau
Yn 2012, fe gafodd 5,206 o blant eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr – cynnydd o 9.8% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt – ac roedd dwy ran o dair o’r rheiny rhwng un a phedair oed.
Mae’r ffigurau’n dangos hefyd fod 85% o’r plant a gafodd eu mabwysiadu wedi eu geni y tu allan i briodas – cynnydd o 3%.
‘Argyfwng’ meddai elusen
Yn ôl elusen flaenllaw sy’n ymgyrchu i ddenu mwy o rieni i fabwysiadu, dim ond £50,000 sydd wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol – o’i gymharu â mwy nag £16 miliwn yn Lloegr.
“Y gwir amdani yw bod Lloegr yn derbyn llawer mwy o fuddsoddiad na Chymru i’r gwasanaeth mabwysiadu,” meddai Ann Bell o Adoption UK yng Nghymru.
“Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o uchelgais ond yn anffodus mae’r pethau yma’n cymryd gormod o amser. Mae diffyg ffynonellau ariannol, ynghyd â llai o rieni sy’n fodlon mabwysiadu, yn ychwanegu at yr argyfwng.
“Mae’n hollbwysig bod pobol yn dod ymlaen i fabwysiadu plant ond rhaid sicrhau fod y gefnogaeth briodol yno ar eu cyfer. Does dim amheuaeth y bydd mwy o blant yn dod i mewn i’r system ofal yn y blynyddoedd nesaf.”