Mae’r tensiwn yn Gibraltar wedi cynyddu eto wrth i long ryfel o wledydd Prydain gyrraedd yno – y diwrnod ar ôl protest gan forwyr o Sbaen.
Er bod Llywodraeth Prydain yn mynnu nad oes a wnelo’r ymweliad ddim â’r helynt rhyngddyn nhw a Llywodraeth Sbaen, mae rhai o drigolion y drefedigaeth wedi ei chroesawu.
Yn ôl y Llywodraeth roedd HMS Westiminster i fod yn yr ardal beth bynnag, ar gyfer ymarferiadau milwrol.
Y cefndir
Roedd y pysgotwyr yn protestio am fod awdurdodau Gibraltar wedi gollwng blociau concrid i’r môr a hynny, meddai’r Sbaenwyr, er mwyn eu rhwystro nhw rhag pysgota.
Yn eu tro, mae Llywodraeth Prydain wedi cwyno am fod Sbaen wedi gosod system fwy tynn o djectio pobol sy’n symud rhwng Gibraltar a Sbaen.
Roedd rhai o bobol y drefedigaeth wedi dweud wrth wasanaeth newyddion PA eu bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Prydain yn gweithredu’n gry’.