Mae yna resymau clinigol da dros ohirio rhai llawdriniaethau, meddai Llywodraeth Cymru.

A’r cleifion eu hunain sy’n gyfrifol am ohirio “canran uchel” ohonyn nhw, meddai llefarydd.

Roedd yn ymateb i feirniadaeth gan y llefarydd Ceidwadol ar iechyd, Darren Millar, sy’n beio’r llywodraeth am gynnydd mewn gohiriadau.

Cynnydd

Yn ôl adroddiad diweddar, mae yna gynnydd o fwy na 70% wedi bod mewn llawdriniaethau sydd wedi’u gohirio, o gymharu â 2010-11.

Roedd Darren Millar yn dweud bod hynny’n “ddychrynllyd” ac yn rhoi’r bai ar doriadau gwario Llywodraeth Cymru ym maes iechyd.

Ac mae’r Llywodraeth wedi cydnabod bod “gweithgaredd gofal cleifion” wedi diodde’ oherwydd trafferthion y gaeaf a oedd, madden nhw, wedi achosi “pwysau” nad oedd modd ei ragweld.

Sylwadau’r Llywodraeth

“Rydym wedi ymroi i leihau nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu gohurio ar draws Cymru,” meddai’r llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Bydd achlysuron lle mae angen gohirio llawdriniaethau am resymau clinigol neu oherwydd dewis cleifion.

“Mae nifer fawr iawn o lawdriniaethau yn cael eu cynnal ledled Cymru bob blwyddyn ac mae canran uchel o’r rhain yn cael eu gohirio gan gleifion.

“Ar rai adegau, bydd yn angenrheidiol i ysbyty ohuirio llawdriniaeth am resymau cyfiawn a rhesymau clinigol b7proffesiynol.”