Darren Millar
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn dweud bod cynnydd mewn llawdriniaethau sy’n cael eu canslo yn ysbytai Cymru yn “ddychrynllyd”.

Roedd Darren Millar yn rhoi sylwadau ar adroddiadau bod nifer y llawdriniaethau sydd wedi eu canslo wedi codi o 72% ers 2010-11.

Roedd yn rhoi’r bai ar brinder gwelyau a hynny, meddai, yn ganlyniad uniongyrchol i doriadau mewn gwario.

Mae canslo llawdriniaethau’n gwastraffu arian ac yn achosi gofid mawr i bobol, meddai Darren Millar, sy’n honni bod Llywodraeth Cymru wedi torri £800 miliwn ar gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pum mlynedd diwetha’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson eu bod yn gorfod torri ar wario oherwydd y cwtogi ar gyllid o Lundain.