Fe fydd gwaharddiad ar weithwyr iechyd sy’n diodde o HIV rhag gwneud rhai triniaethau yn cael ei godi wedi i’r Prif Swyddog Meddygol yno ddweud bod y rheolau “ar ôl yr oes”.
Ar hyn o bryd ‘dyw gweithwyr sy’n cael triniaeth am HIV ddim yn cael cymryd rhan mewn sawl math o driniaethau gan gynnwys llawdriniaethau a gwaith deintyddol.
Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Fonesig Sally Davies mae gwyddoniaeth wedi datblygu ac mae’n hen bryd cael gwared â “rheolau sydd ar ôl yr oes.”
“Rydan ni angen – ac mae’n rhaid i ni newid – y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am HIV fel rhywbeth positif neu negyddol a meddwl am HIV fel dedfryd o farwolaeth, i feddwl am p’run ai ydi pobl yn heintus ai pheidio.
“Efo triniaeth effeithiol tydi llawer ddim yn heintus,” meddai.
‘Mwy o siawns o gael eich taro gan fellten’
Yn ôl Llywodraeth San Steffan mae mwy o siawns o gael eich taro gan fellten na chael eich heintio gan weithiwr iechyd sy’n diodde o HIV – pedwar achos sydd wedi digwydd trwy’r byd a dim un o’r rhain yn y Deyrnas Unedig (DU).
Mae tua 100,000 o bobl yn diodde o HIV yn y DU er bod arbenigwyr yn credu bod tua chwarter ddim yn sylweddoli eu bod yn cario’r firws.
Cymru
Mae gwir angen trefn symlach i warchod y cyhoedd rhag HIV yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford.
Dywedodd bodd rhaid annog pobl i gael profion cyn gynted ag sy’n bosibl a sicrhau na fydd hynny’n dal yn ôl rhai “o’n gweithwyr iechyd gorau.”
“Mae HIV yn parhau i fod yn fater iechyd difrifol,” meddai “ ac rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl am sawl rheswm yn gyndyn o ddod ymlaen a chael prawf HIV.
“Trwy gael gwared â’r gwaharddiad ar werthu pecynnau hunan-brofi a diweddaru’r gwaharddiadau sy’n atal gweithwyr iechyd rhag trin cleifion, rydyn ni’n gofalu bod Cymru a gweddill y DU yn cydymffurfio efo’r rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin.
“Rydan ni eisiau iddi fod yn haws i bobl gael profion ac yna’r driniaeth orau posibl,” meddai.