Bradley Manning
Mae’r hanner Cymro, Bradley Manning, wedi ymddiheuro am wneud drwg i’r Unol Daleithiau wrth ollwng miloedd o ffeiliau lled gyfrinachol i wefan Wikileaks.
Mae’r milwr 25 oed, a gafodd ei fagu’n rhannol yn Hwlffordd, yn ymddangos o flaen llys milwrol yn Fort Meade, Maryland, i gael ei ddedfrydu ar ôl achos a barodd am ddau fis a hanner.
Mae wedi ei gael yn euog o nifer o gyhuddiadau o ollwng gwybodaeth gyfrinachol pan oedd yn ddadansoddwr gwybodaeth gudd yn Irác.
Roedd wedi cyfadde’ i rai cyhuddiadau eraill.
Hyd at 90 mlynedd
Fe allai wynebu dedfryd o gymaint â 90 mlynedd dan glo ond, wrth siarad o’r doc, fe apeliodd ar y barnwr am gyfle i fynd i goleg a dod yn “ddinesydd cynhyrchiol”.
Fe ddywedodd nad oedd wedi meddwl y byddai gollwng gwybodaeth yn gwneud drwg i’r Unol Daleithiau – roedd y ffeiliau’n cynnwys fideo o hofrennydd Americanaidd yn lladd pobol gyffredin yn Irác.
Roedd seiciatrydd a roddodd dystiolaeth ar ei ran wedi sôn am ei blentyndod trwblus, gan awgrymu ei fod yn diodde’ o gyflyrau fel alcohol yn y groth ac Aspergers.
Mae yntau’n dweud ei fod wedi dod dan bwysau mawr oherwydd awyrgylch wrywaidd iawn y fyddin, ac yntau’n credu ei fod yn ferch mewn corff dyn.