Chris Coleman
Am Gareth Bale y mae’r holl siarad ar ôl gêm Cymru neithiwr, er nad oedd yn chwarae … neu, yn hytrach, am nad oedd yn chwarae.

Diflastod oedd y prif deimlad wrth i Gymru a Gweriniaeth Iwerddon fethu â sgorio o flaen tyrfa fechan o tua 8,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond fe ddywedodd y rheolwr Chris Coleman ei fod yn falch o gael gêm heb ildio gôl a’i bod hi’n bwysig i’r garfan fod wedi dod at ei gilydd cyn cyfres o bedair gêm bwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Dyma’r tro cynta’ i’r tîm beidio ag ildio gôl ers iddo ddod yn rheolwr a dyma’r gêm gyfartal ddi-sgôr gynta’ iddyn nhw ers mwy na 40 o gemau.

Dim dannedd

Dim ond cic rydd gan Craig Bellamy yn yr ail hanner a ddaeth yn agos at sgorio i Gymru ond roedd rhaid i Boaz Myhill yn y gôl wneud sawl arbediad da.

Roedd y cefnwr, Ben Davies, wedi cael un cyfle da hefyd ar ddiwedd yr hanner cynta’ ond wedi methu â tharo’r targed.

Yr amddiffynnwr canol, Ashley Williams, oedd chwaraewr gorau’r gêm wrth iddo atal nifer o ymosodiadau.

Ond, gyda Gareth Bale yn gwylio’r gêm, a’r chwaraewr canol cae, Aaron Ramsey, wedi ei anafu hefyd, roedd Cymru’n ddiddannedd.