Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi rhybuddio bod angen i’r tîm cenedlaethol ddangos eu bod yn gallu ennill gemau heb Gareth Bale.
Fydd Aaron Ramsey ddim ar gael chwaith wrth i Gymru wynebu Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar.
Dyw Gareth Bale ddim yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw oherwydd anaf i’w droed ac fe ddywedodd Chris Coleman y byddai hynny’n rhoi cyfle i chwaraewyr eraill.
Roedd rhaid dangos y gallai Cymru ennill heb y chwaraewr canol cae ymosodol sy’n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau’r byd.
Cofio’r Alban
Fe dynnodd y rheolwr sylw at gêm yr Alban y llynedd pan lwyddodd Cymru i ennill yn yr ail hanner ar ôl i Gareth Bale adael y cae.
Mae’r gêm heno’n cael ei hystyried yn un bwysig o ran safle Cymru yn rhengoedd timau’r byd ac wrth baratoi am ddwy gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd ym mis Medi.