Godfrey Bloom (o'i wefan swyddogol)
Mae un o aelodau plaid UKIP yn senedd Ewrop yn ddiedifar am feirniadu rhoi cymorth ariannol i bobol o “bongo bongo land”.

Fe wnaeth Godfrey Bloom hwyl am y peth trwy ddweud y byddai’n ymddiheuro i lysgennad “bongo bongo land” os oedd rhywun yn gweld chwith.

Yn ôl yr Aelod Ewropeaidd tros Ogledd Swydd Efrog a Swydd Lincoln, roedd yn siarad ar ran pobol gyffredin trwy feirniadu’r cymorth ariannol ac awgrymu bod y rhai sy’n ei dderbyn yn ei wastraffu ar eitemau drud.

Ond mae un o swyddogion UKIP wedi dweud wrth bapur y Guardian fod sylwadau Godfrey Bloom yn cael eu hystyried gan yr arweinwyr.