Dominic Grieve, y Twrnai Cyffredinol
Fe fydd y Twrnai Cyffredinol yn edrych eto ar y gosb a roddwyd i bedoffilydd ar ôl adroddiadau fod yr erlynydd wedi rhoi peth o’r bai ar ferch 13 oed.

Yn ôl adroddiadau o’r llys, roedd yr erlynydd Robert Colover wedi dweud fod y ferch  yn “rheibus ac yn rhywiol brofiadol”.

Dim ond carchar wedi’i ohirio a gafodd y troseddwr, Neil Wilson, 41 oed ar ôl iddo bledio’n euog yn Llys y Goron Snaersbrook, Llundain, i ddau gyhuddiad o wneud lluniau pornograffig eithafol o blant ac un drosedd o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Yn ôl y mudiad plant Barnardo’s all plentyn ddim cydsynio i ryw gydag oedolyn ac fe ddywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod sylwadau’r erlynydd, Robert Colover, yn “anaddas”.

Roedd heddlu wedi dod o hyd i luniau o gam-drin plant ac anifeiliaid yng nghartref Neil Wilson yn Romford, Essex. Mae bellach yn byw yng Nghaerefrog.