Caeredin
Bydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal heddiw ar gyrff dyn a dynes gafodd eu darganfod yn farw yn un o westai enwocaf Caeredin brynhawn ddoe.

Cafodd y dyn a’r ddynes eu darganfod mewn ystafell yng Ngwesty’r Scotsman, ger stryd hanesyddol y Filltir Frenhinol toc wedi 12.15.

Mae’n ymddangos fod y marwolaethau yn gysylltiedig â ‘digwyddiad cemegol’ ond mae papur y Daily Record yn honni fod y ddau wedi lladd ei hunain trwy gymryd y gwenwyn cyanide a bod nodyn wedi cael ei adael yn yr ystafell i’r perwyl yma.

Mae adroddiadau yn honni fod cynhwysydd agored yn llawn cemegau wedi cael ei ddarganfod yn yr ystafell a bod gwesteion eraill yn dweud fod arogl carffosiaeth cryf yn y gwesty, cyn i’r cyrff gael eu darganfod.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, “Mae ymchwiliadau cynnar yn awgrymu mai digwyddiad yn gysylltiedig â chemegau oedd hwn, ond bydd y cyrff yn cael eu harchwiliio yn fforensig.”

Nid yw’r dyn a’r ddynes wedi cael eu henwi eto.