Mae rhagor o helynt tros ddefnydd o wefannau cymdeithasol a dau ddyn 21 oed mewn trafferthion.
Mae un dyn yn cael ei holi ar amheuaeth o fygwth ymgyrchwraig hawliau merched trwy gyfrwng y wefan Twitter.
Ac fe fydd dyn arall yn clywed a fydd yn cael ei garcharu am roi neges ar Facebook pan oedd yn rheithor mewn achos llys.
Bygythiadau trydar
Fe ddywedodd yr heddlu ym Manceinion eu bod yn holi dyn 21 oed ar ôl cyfres o fygythiadau trydar yn erbyn gwraig a lwyddodd i gael yr awdures Jane Austen ar y papurau £10 nesa’.
Roedd y bygythiadau treisgar wedi parhau am ddiwrnod cyfan ac mae mwy na 12,500 o bobol bellach wedi cefnogi deiseb yn galw ar Twitter i wella’u systemau.
Maen nhw eisiau botwm sy’n rhoi’r cyfle i roi gwybod ar unwaith am gamddefnydd o’r fath.
Wynebu carchar am neges Facebook
Fe fydd Kasim Davey, 21 oed, o Lundain yn cael gwybod a fydd yn wynebu carchar am ei neges Facebook yntau.
Ar ôl cael ei ddewis ar reithgor mewn achos o gam-drin rhywiol yn erbyn plant, roedd wedi anfon neges yn dweud ei fod wrth ei fodd yn cael cyfle i’w rhoi-hi i bedoffeil.
Roedd y Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, wedi ymddangos yn bersonol mewn achos llys yr wythnos ddiwetha’ i alw am garchar.
Fe gyfaddefodd Davey ei fod yn ceisio cael sylw ond fe ddywedodd hefyd wrth ei gwnsel, y cyn AS Cymreig Alex Carlile, nad oedd yn sylweddoli ei fod yn gwneud dim o’i le.