Jane Austen ar bapur £10
Yr awdures Jane Austen fydd yn ymddangos ar bapurau £10 o 2017 ymlaen, wrth i gyfnod y naturiaethwr Charles Darwin ddod i ben.

Fis Ebrill eleni cyhoeddodd Banc Lloegr mai’r cyn-Brif Weinidog, Winston Churchill fyddai’n ymddangos ar bapurau £5 o 2016 ymlaen.

Cyn y cyhoeddiad am Jane Austen heddiw, byddai ymadawiad Elizabeth Fry o bapurau £5 yn 2016 wedi golygu mai’r Frenhines fyddai’r unig ferch ar bapurau Banc Lloegr. Arweiniodd hyn at ymgyrch gyhoeddus i geisio sicrhau mai merch fyddai wyneb newydd y papur £10.

Bydd y papur £10 newydd yn cynnwys llinell o waith yr awdures sydd fwyaf enwog am ei nofel ‘Pride and Prejudice’.

‘Apêl oesol’

Dywedodd Rheolwr Banc Lloegr, Mark Carney, “Mae Jane Austen yn sicr yn haeddu ei lle ymysg ffigyrau hanesyddol i ymddangos ar bapurau’r banc. Mae gan ei nofelau apêl oesol ac mae hi’n cael ei hadnabod fel un o awduron gorau llenyddiaeth Saesneg.”

Sefydlodd y newyddiadurwraig Caroline Criado-Perez ddeiseb ar safle we Change.org yn galw ar y banc i roi mwy o ferched ar eu papurau. Cafodd y ddeiseb gefnogaeth 35,000 o bobl ac mae hi’n credu fod hyn wedi dylanwadu ar benderfyniad y banc.

Meddai: “Heb yr ymgyrch yma a heb y 35,000 a wnaeth arwyddo’r ddeiseb, byddai Banc Lloegr wedi dileu merched o’n hanes. Mae clywed mai Jane Austen fydd yn ymddangos ar y papur £10 yn newyddion gwych.”