Bannau Brycheiniog
Mae cwest i farwolaeth dau filwr ym Mannau Brycheiniog wedi penderfynu cynnal rhagor o brofion cyn y gallan nhw ddweud sut y bu’r ddau farw.

Cafodd y cwest i farwolaethau Edward John Maher a Craig John Roberts yn Aberhonddu ei agor a’i ohirio heddiw.

Bu farw’r ddau ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn wrth ddringo mynydd Pen y Fan ar Orffennaf 13.

Mae milwr arall yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Roedd adroddiadau ar y pryd yn awgrymu bod eu marwolaethau’n gysylltiedig â’r gwres.

Dywedodd tystion eu bod nhw wedi gweld dau filwr mewn trafferthion ac yn pledio am ddŵr.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ieuan Wyn Jones wrth y cwest fod Craig John Roberts wedi marw am 5.15pm, a bod Edward John Maher wedi marw yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful dair awr yn ddiweddarach.

Nid yw archwiliad post-mortem wedi gallu darganfod sut y bu’r ddau farw.

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant dwys ar gyfer yr SAS.

Roedd Craig John Roberts wedi gwasanaethu’r Fyddin Diriogaethol am bum mlynedd, ac mae’n debyg ei fod e wedi treulio cyfnodau yn Irac ac Afghanistan.

Roedd y cyn-gynorthwyydd cymorth dysgu’n byw yn Llundain, ac roedd e’n disgwyl dechrau ar swydd newydd yn swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg ym mis Medi.

Cafodd enw Edward John Maher ei gyhoeddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn y bore ma.

Doedd y teulu ddim am ryddhau ei enw, ond fe gyhoeddon nhw deyrnged iddo’r bore ma cyn i’r cwest ddechrau yn “gofyn am lonydd i alaru”.

Mae ymchwiliad yr heddlu a gwiriad iechyd a diogelwch ar y gweill.

Dywedodd y crwner, Louise Hunt ei bod hithau’n bwriadu cynnal ymchwiliad fel rhan o’r Ddeddf Hawliau Dynol hefyd.

Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal yn Llys Crwner Aberdâr ar Fedi 3 cyn y cwest llawn.