Mae adroddiad gan Gymdeithas y Plant yn nodi bod plant yn llai hapus ym Mhrydain nag yr oedden nhw yn y degawd diwethaf.
Yn ôl yr adroddiad, mae plant yn llai hapus erbyn hyn nag yr oedden nhw rhwng 1994 a 2008.
Plant sydd newydd gyrraedd eu harddegau sydd lleiaf hapus, ac maen nhw’n dweud mai pryderon ynghylch yr ysgol, eu hymddangosiad corfforol a diffyg rhyddid yw eu prif resymau dros fod yn anhapus.
Cafodd 42,000 o blant 8-17 oed eu holi yn ystod arolwg gan y Gymdeithas, ac fe ddaeth i’r casgliad mai plant 14 a 15 oed sydd lleiaf hapus.
Er gwaethaf canlyniadau’r adroddiad, mae Cymdeithas y Plant yn rhybuddio nad yw anhapusrwydd yn rhan annatod o dyfu i fyny, a bod rhaid mynd i’r afael â’r sefyllfa.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas y Plant, Matthew Reed: “Mae lles cenhedlaeth y dyfodol yn y DU yn hanfodol.
“Felly mae’n achosi pryder mawr fod unrhyw welliannau a welwyd yn y wlad hon o ran lles plant dros y ddau ddegawd diwethaf yn ymddangos fel pe baen nhw wedi dod i stop.”