Mae dyn wedi cael ei achub ar ôl mynd i drafferthion mewn mwd yn harbwr Y Rhyl bore ma.

Cafodd Timau Achub Gwylwyr y Glannau Y Rhyl a Flint ynghyd a bad achub Y Rhyl eu galw i’r harbwr toc wedi 6yb bore ma.

Cafodd y dyn ei ryddhau o’r harbwr wrth i’r timau achub ddefnyddio dulliau achub arbennig, yn benodol ar gyfer digwyddiad o’r fath. Roedd y dyn wedi bod yn gaeth yn y mwd am oddeutu dwy awr cyn iddo gael ei ddarganfod, ac roedd y mwd wedi cyrraedd ei ganol.

Dywedodd Barry Priddis o Ganolfan Cyd-lynu Achub Morwrol Caergybi: “Roedd yn lwcus iawn fod y dyn yma wedi ei ddarganfod. Gan ei fod wedi bod yn gaeth yn y mwd am oddeutu dwy awr, roedd yn hollbwysig ein bod yn ymateb yn sydyn i’w ryddhau.”

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Wrth roi cyngor i unrhyw un sy’n canfod eu hunain yn y fath sefyllfa dywedodd Barry Priddis:  “Mae’n hollbwysig eich bod yn gwasgaru eich pwysau cymaint â phosib ac os oes ffôn symudol gyda chi, ffoniwch 999 gan ofyn am Wylwyr y Glannau.

“Dylid osgoi symud gan gadw mor llonydd â phosib. Peidiwch â gadael i eraill geisio eich achub oherwydd, heb yr offer perthnasol, gallan nhw hefyd fynd yn sownd.”