Wrth i’r Sioe Frenhinol gychwyn heddiw yn Llanelwedd, mae un o arweinyddion y diwydiant amaethyddol ym Mhrydain wedi datgan pryder ynglŷn â’r oedi i erlyn y rhai sy’n gyfrifol am sgandal cig ceffyl.
Dywedodd Llywydd undeb yr NFU, Peter Kendall ei fod yn bryderus nad oes unrhyw un wedi cael eu cosbi yn sgil y sgandal ac mae’n feirniadol o’r oedi yn yr ymchwiliad.
Dywedodd: “Mae enw da ffermwyr yn y fantol a phan mae rhywun yn cymysgu cigoedd gwahanol â’i gilydd, rydym yn disgwyl iddyn nhw gael eu herlyn.”
Bydd trafodaeth am yr helynt cig ceffyl yn y sioe heddiw sy’n cael ei threfnu gan Brifysgol Aberystwyth.
Yn ôl Peter Kendall mae ffermwyr yn anhapus â’r oedi yn yr ymchwiliad ac yn dweud bod angen eglurhad o’r ymchwiliad.
Meddai: “Da ni ddim yn hapus ac mae’n anodd gweld lle mae’r erlyniad ‘ma a hefyd lle mae’r broses o gasglu tystiolaeth.”
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau i gynnal ymchwiliad i’r achos ar ôl i gig ceffyl gael ei ddarganfod mewn nifer o gynnyrch cig eidion ar draws Ewrop chwe mis yn ôl.
Wrth ymateb i sylwadau Peter Kendall, dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies nad oedd yn deg rhoi pwysau ar yr awdurdodau sy’n ymchwilio i’r sgandal a dylid aros i’r ymchwiliad gyrraedd ei derfyn.
Mae disgwyl i dros 200,000 o ymwelwyr fentro i’r Sioe Frenhinol heddiw wrth i’r tywydd poeth barhau.