Ysgol Pwll Coch
Mae disgwyl i ymgyrchwyr ymgynnull yn eu niferoedd tu allan i gyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd brynhawn ‘ma i brotestio dros benderfyniad y Cyngor i ail-feddwl adeiladu ysgol gynradd Gymraeg yn Grangetown.

Yn gynharach eleni, penderfynodd y Cyngor adeiladu ysgol gynradd newydd yn Grangetown er mwyn ymateb i’r galw am leoedd ffrwd Cymraeg ond ers hynny maen nhw wedi ail-feddwl ac mae’r safle bellach yn cael ei ystyried ar gyfer ysgol Saesneg newydd.

Yng nghyfarfod y Cabinet heddiw bydd cynnig gerbron yr aelodau i adeiladu nifer o ysgolion Saesneg yng Nghaerdydd ond i beidio agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i wasanaethu ardal Grangetown, fel y tybiwyd yn wreiddiol.

Mae disgwyl i nifer o gynrychiolwyr o fudiad RhAG (Rhieni Dros Addysg Gymraeg)  a Chymdeithas yr Iaith ymgynnull tu allan i swyddfeydd y Cyngor am 1.45yh prynhawn ‘ma i bwyso ar y Cabinet i beidio torri eu haddewid i ddarparu safle newydd ar gyfer addysg Gymraeg yn y ddinas.

‘Esgeuluso addysg Gymraeg’

Dywedodd Euros ap Hywel o Gymdeithas yr Iaith: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Caerdydd wedi esgeuluso addysg Gymraeg yn y ddinas. Mae’r Gymraeg yn rhywbeth a ddylai berthyn i bawb a byddai’r Cyngor, drwy dorri ei addewid, yn rhwystro cenedlaethau o blant rhag cael y gallu i fyw yn Gymraeg.”

Mewn llythyr at aelodau o Gabinet Cyngor Caerdydd, mae mudiad RhAG yn galw ar y Cyngor i ddiogelu lles buddiannau addysg Gymraeg yn y ddinas drwy agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown yn hytrach na chywasgu trydedd ffrwd ar safle Ysgol Pwll Coch yn Lecwydd.

Dywedodd Ceri Owen o RhAG: “Galwn arnoch i beidio ag arallgyfeirio £6 miliwn o arian Llywodraeth Cymru sydd wedi ei glustnodi i addysg Gymraeg ers tair blynedd. Galwn arnoch i anrhydeddu’r cynllun gwreiddiol ac i adeiladu ysgol Gynradd Cymraeg newydd yn Grangetown.”