Y Prif Weinidog, David Cameron
Bydd y Prif Weinidog David Cameron yn galw heddiw ar gwmniau  i’w gwneud hi’n llawer anoddach i ddod o hyd i luniau anweddus o blant ar y we.

Roedd Mark Bridger, a lofruddiodd April Jones ym Machynnleth, a Stuart Hazel, wnaeth lofruddio Tia Sharp yn ddiweddar, wedi gwylio pornograffi plant a phornograffi treisgar cyn troseddu ac mae rhai arbennigwyr yn credu bod yna gyswllt rhwng trais a phornograffi.

Yn ei araith bydd David Cameron yn galw ar gwmniau fel Google, Bing a Yahoo! i roi bloc ar ddangos canlyniadau chwilio am rai termau sydd wedi cael eu casglu gan y Ganolfan Ecsbloetio Plant a Gwarchod Ar-lein (CEOP).

Mae’r cwmniau eisoes wedi cytuno i gyflwyno ‘tudalennau sblash’ fydd yn rhybuddio pobl eu bod yn ceisio gwylio lluniau anghyfreithlon.

Gwneud mwy

Mae’r Prif Weinidog eisiau i’r cwmniau wneud llawer mwy beth bynnag, gan gynnwys rhybuddion y gallai gwylio’r lluniau “arwain at golli eu swyddi, eu teuluoedd a hyd yn oed eu plant”.

Mae hefyd am weld y tudalennau sblash yn cyfeirio pobl at elusen Stop it Now er mwyn ceisio newid eu hymddygiad a hefyd gweld y cwmniau yn cyd-weithio er mwyn dod o hyd i’r dechnoleg i atal y broblem.

“Mae gen i neges glir ar gyfer Google, Bing, Yahoo! a’r gweddill,” meddai. “Mae gennych ddyletswydd i weithredu – ac mae hyn yn ddyletswydd moesol.”

“Rhowch eich pobl mwyaf galluog ar waith i daclo hyn. Nid ydych ar wahan i’n cymdeithas ond yn rhan o’n cymdeithas ac mae’n rhaid i chi chwarae rhan gyfrifol ynddi.”

Amheuaeth

Mae rhai arbenigwyr yn amau a fydd hyn yn gweithio. Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Open Rights Group sy’n gwarchod rhyddid ar-lein, y buasai’n llawer gwell rhoi arian er mwyn dod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu’r lluniau a chyfyngu ar y dulliau o dalu amdanyn nhw.

“Mae’r syniad bod gwahardd rhai termau chwilio yn mynd i ostwng faint o bornograffi plant sydd ar-lein yn gamgymeriad mawr,” meddai Jim Killock.

“Dwi’n credu bod bwriad David Cameron i’w gamol ac wrth gwrs mae pawb eisiau taclo cyhoeddi’r math yma o ddeunydd ond does ganddon ni ddim tystiolaeth go iawn mai trwy’r injans chwilio y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ceisio dod o hyd i’r deunydd yma.

“Mae’n hynod, hynod anghyfreithlon ac mae pobl felly yn tueddu i fod yn ddirgelaidd iawn.”