Marion Bartoli
Marion Bartoli sydd wedi ennill teitl y merched ym mhencampwriaethau Wimbledon.

Fe gurodd ei gwrthwynebwraig, Sabine Lisicki, mewn gêm danbaid a chwyslyd ar y Cwrt Canol heddiw.

Fe syrthiodd y Ffrancwraig ar ei gliniau pan gipiodd y pwynt ola’ a roddodd iddi ei thlws Camp Lawn cynta’.

Roedd Sabine Lisicki o’r Almaen yn ei dagrau yn ystod y gêm, wrth iddi, fesul pwynt a chamgymeriad, weld nad oedd ganddi obaith o ennill y teitl.