Mae Llewod Prydain ac Iwerddon wedi ennill y gyfres yn erbyn Awstralia, gyda buddugoliaeth 16-41 yn Sydney heddiw.

Roedd torf o 84,000 yn Stadiwm ANZ i wylio’r gêm allweddol – ac roedd hi’n gêm gyffrous o’r munud cynta’ un.
Wedi cais gan Corbisiero yn y munud cynta’, fe lwyddodd Leigh Halfpenny i drosi, cyn mynd yn ei flaen i sgorio pum cig gosb allan o bump yn ystod hanner cynta’r gêm.
Ond doedd Awstralia ddim yn ddigon disgybledig yn yr ail hanner chwaith, ac fe gawson nhw eu cosbi ymhellach gan droed dde Halfpenny.
Fe ddaeth tri chais i’r Llewod yn yr ail hanner – y cynta’ gan Sexton, gan fynd â’r sgôr i 16-29. Yna, Halfpenny’n gwrthymosod ac yn rhoi’r cyfle i George North groesi’r llinell ar 16-34.
A’r trydydd pan aeth Jamie Roberts yn syth am y llinell a mynd â’r gêm allan o afael Awstralia’n llwyr, 16-41.

Leigh Halfpenny gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Gyfres.