Agorwyd Gemau Cymru 2013, digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan yr Urdd, yn swyddogol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru gan y Gweinidog dros Ddiwylliant a Hamdden, John Griffiths.
Pwysleisiodd bwysigrwydd Gemau Cymru fel un o brif ddigwyddiadau chwaraeon yng nghalendr Cymru.
Ategodd fod y gemau hyn yn rhan o waddol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac ein bod angen gwaddol sy’n “gynaladwy er mwyn cynhyrchu mwy o sêr ar gyfer y dyfodol.”
Dangosodd ei frwdfrydedd ar gyfer cynnal y gemau eto y flwyddyn nesaf gan ddweud y byddai yn “hoffi gweld y gemau yn adeiladu ar eu llwyddiant ac yn cryfhau ar gyfer y dyfodol.”