Mae “rhagfarn ryddfrydol ddwfn” wedi atal y BBC rhag adlewyrchu barn y bobol am fewnfudo, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed arolwg a gafodd ei gynnal gan un o benaethiaid y Gorfforaeth, Stuart Prebble, fod y BBC wedi bod yn araf yn caffael barn y cyhoedd am bynciau fel mewnfudo a chefnogaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed yr adroddiad fod cyn-gyfarwyddwr newyddion y BBC, Helen Boaden yn ymwybodol o’r rhagfarn pan gafodd ei phenodi yn 2004.

Dywedodd cyn-ohebydd y rhaglen Today, Robin Aitken wrth roi tystiolaeth i’r adroddiad fod y BBC yn ofni bod yn ddadleuol ynghylch agweddau at fewnfudo.

Yn ôl yr adroddiad: “Roedd y BBC yn araf i adlewyrchu maint y pryderon yn y gymuned ehangach am faterion oedd yn deillio o fewnfudo.

“Mae’n dal i fod yn wir fod agenda’r ddadl, fwy na thebyg, yn cael ei gyrru’n ormodol gan safbwyntiau gwleidyddion.

“Fodd bynnag, ar y cyfan, mae ehangder y farn gafodd ei hadlewyrchu gan y BBC ar y pwnc hwn yn fawr ac yn creu argraff, a doedd dim tystiolaeth gadarn fod safbwyntiau arwyddocaol heb dderbyn sylw digonol heddiw.”

Ychwanegodd yr adroddiad fod y BBC wedi gwella yn y ffordd mae’n rhoi sylw i farn y cyhoedd am aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd aelod o Ymddiriedolaeth y BBC, David Liddiment: “Mae sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau’n cael eu gweld a’u clywed ar y BBC wrth wraidd enw da’r BBC am newyddiaduraeth ddi-duedd, ac rwy’n ddiolchgar i Stuart Prebble am ei asesiad annibynnol o gynnydd y BBC.

Ychwanegodd Stuart Prebble fod y BBC wedi dilyn agenda San Steffan ar fewnfudo yn rhy hir, a bod gwleidyddion wedi bod yn gyndyn o drafod y mater.

Ond dywedodd fod y sylw sy’n cael ei roi i’r mater bellach yn fwy cytbwys ac yn nes at farn y cyhoedd nag o’r blaen.

Costiodd yr arolwg £175,000.

Yn y gorffennol, cyfaddefodd cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson fod y Gorfforaeth wedi bod yn euog o ddangos gormod o duedd tuag at yr asgell chwith.