Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i ddirwyo landlordiaid sy’n caniatáu i fewnfudwyr anghyfreithlon fyw yn eu tai.

Mae ymgynghoriad wedi ei lansio i geisio mynd i’r afael â landlordiaid sy’n osgoi gwirio statws mewnfudo preswylwyr eu tai.

Bydd landlordiaid sy’n methu cydymffurfio â’r mesur yn wynebu dirwy ariannol.

Daw’r newyddion yn dilyn datganiad gan yr Adran Iechyd eu bod yn ceisio delio â mynediad mewnfudwyr i’r Gwasanaeth Iechyd.   

Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Mark Harper: “Mae’r llywodraeth yn benderfynol o adeiladu system tecach gan ymateb i bryderon y cyhoedd ynglŷn â mewnfudiad.  Bydd y cynlluniau yn rhan o’r Mesur Mewnfudo, sy’n cael ei gyflwyno nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.”

Ychwanegodd fod y cynlluniau yn rhan o ddiwygio eithafol i’r system fewnfudo sydd wedi gweld gostyngiad yn y nifer sy’n allfudo i’r lefel isaf ers deng mlynedd.  

Mae disgwyl i’r mesur gynnwys diwygiadau i’w gwneud hi’n haws cael gwared ar unigolion o’r DU trwy gyfyngu hawliau apêl a thynhau’r defnydd o’r Ddeddf Hawliau Dynol.