George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne heddiw yn amlinellu ei gynlluniau gwariant cyn yr etholiad cyffredinol yn 2015.

Mae disgwyl iddo dorri £11.5 biliwn oddi ar gyllidebau adrannau Whitehall yn ei Adolygiad Gwariant  ar gyfer 2015-16 – sef blwyddyn gynta’r Llywodraeth nesaf.

Ond mae disgwyl i George Osborne hefyd gyhoeddi y bydd biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer prosiectau mawr i hybu twf erbyn diwedd y degawd. Fe fydd y cynlluniau hynny yn cael eu hamlinellu gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander yfory.

Mae disgwyl i’r Canghellor ddweud wrth Aelodau Seneddol ei fod yn parhau’n ymrwymedig i fynd i’r afael a dyledion y wlad.

Fe fydd pob un o adrannau Whitehall yn gorfod wynebu toriadau ar wahân i’r GIG, ysgolion a chymorth i wledydd tramor.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gael llai o arian ac mae ’na bryder y bydd cyllideb S4C hefyd yn cael ei thorri.